Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu
Nod y fframwaith hwn yw ateb anghenion sgiliau cyflogwyr o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a nid-er-elw yng Nghymru.
Mae Prentisiaeth Lefel 4 mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn cynnwys dau lwybr ar wahân er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu harferion fel cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Bydd hyn yn cynorthwyo dysgwyr i fynd ymlaen i yrfa yn y ddisgyblaeth o’u dewis a symud ymlaen i gymwysterau a fydd yn rhoi modd iddynt ennill statws proffesiynol. Ar hyn o bryd, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn cynnig llwybr Ymarfer Cyfieithu wedi’i ariannu’n llawn* i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Sylwch: Dyluniwyd y Brentisiaeth ar gyfer y rhai sydd mewn rolau Cyfieithydd; rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar sgiliau iaith cadarn yn yr iaith ffynhonnell a’r iaith darged (h.y. Cymraeg a Saesneg). Hefyd, bydd gan yr ymgeiswyr brofiad o weithgareddau seiliedig ar gyfieithu. Mae’r brentisiaeth yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ceisio cydnabyddiaeth am y sgiliau hyn
Bydd angen i ni gwrdd â’r cyflogwr cyn dechrau’r cwrs er mwyn trafod y cwrs ac i gadarnhau bod lefel a chynnwys y cwrs yn addas ar gyfer staff. Byddwn hefyd yn gwirio bod gan y dysgwr y gallu i ddangos cymhwysedd o ran arferion gwaith yn ei rôl bresennol, ac yn bwysicach, bod ganddo’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol a eglurir uchod (yn ddelfrydol, o leiaf Safon Uwch neu’r cyfwerth mewn Cymraeg ac o leiaf Lefel ‘O’ neu’r cyfwerth mewn Saesneg).
Mae’r Fframwaith Prentisiaeth Uwch Lefel 4 yn cynnwys y cymwysterau canlynol:
1. Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu (FfCCh/NVQ) Agored Cymru - 601/5761/6
Unedau gorfodol FfCCh / NVQ:
• Moeseg ym maes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
• Egwyddorion defnyddio ac amrywio iaith
• Datblygu a chynnal sgiliau cyfieithu
• Rheoli comisiynau cyfieithu
• Cyfieithu testunau ysgrifenedig
• Gwella’ch perfformiad eich hun fel cyfieithydd
Addysgir y cwrs drwy ddysgu cyfunol gan diwtor / aseswr cymwysedig. Mae’r addysgu ar gael drwy ymweliadau wyneb yn wyneb â’r gweithle ac / o bell i unigolion / grwpiau. Gallwn drafod dulliau addysgu penodol a chytuno arnynt gyda chyflogwyr cyn dechrau’r cwrs.
2. Sgiliau Hanfodol (Cymru) City and Guilds –
Lefel 2 mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol
(D.S. – Gallai procsïau fod yn berthnasol i’r rhai sy’n dal ac yn cyflwyno tystysgrifau Saesneg / Cymraeg a Mathemateg).
Addysgir dosbarthiadau gan Diwtoriaid Sgiliau Hanfodol profiadol ac ymroddedig.
3. Gweithlyfr Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Teitl(au) / Rôl(au) arferol: Cyfieithydd Iau neu Gyfieithydd
Mae dyletswyddau’n cynnwys: cyfieithu dogfennau ysgrifenedig o’r naill iaith i’r llall yn gywir gan ystyried sensitifrwydd diwylliannol; cynnal cronfeydd data terminoleg; defnyddio cyfeirlyfrau arbenigol; prawfddarllen; ymchwil a meddalwedd cyfieithu.
Sylwch: Mae dysgwyr yn symud ymlaen i’r brentisiaeth uwch hon o nifer o lwybrau gwahanol oherwydd cefndiroedd amrywiol, profiadau academaidd yn y gorffennol a phrofiadau cysylltiedig â gwaith. Bydd llwybrau o’r fath wedi arwain at y canlynol:
• Cymwysterau Tystysgrif neu Ddiploma FfCCh ar Lefel 3 mewn iaith o’ch dewis
• Safon Uwch
• Diploma Estynedig
• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys gradd pasio yn y Craidd
• Gwaith mewn rolau cynorthwyol cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd
Bydd gofyn i ddysgwyr ddiwallu gofynion mynediad y fframwaith er mwyn symud ymlaen i’r cwrs Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu.
Ar ôl cwblhau’r cymwysterau hyn, gall dysgwyr gwblhau dysgu ychwanegol er mwyn symud ymlaen i rolau uwch neu symud tuag at gydnabyddiaeth broffesiynol trwy astudiaethau fel:
• Cymhwyster proffesiynol Lefel 5 neu uwch mewn Cyfieithu ar y Pryd
• Cymwysterau seiliedig ar iaith neu gyfieithu ar y pryd mewn Sefydliad Addysg Uwch
• Cydnabyddiaeth broffesiynol drwy gymwysterau arbenigol yr Heddlu, gwasanaeth cyhoeddus.
*Prentisiaeth Uwch wedi’i hariannu’n llawn yw hon – yn amodol ar feini prawf cymhwystra
Ar gyfer cyflogwyr sydd am recriwtio Prentis Uwch dan Hyfforddiant mewn Ymarfer Cyfieithu. Gallwn gefnogi gyda chyngor ynglŷn â: swydd-ddisgrifiad, cyflogau, hysbysebu, recriwtio ac ati.
Mae’n gwrs delfrydol hefyd ar gyfer cyfieithwyr mwy profiadol a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio cyfieithwyr presennol a gwella eu cofnodion DPP. Bydd yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster FfCCh/NVQ yn gofyn am rywfaint o ymchwil i arferion cyfieithu cyffredinol a bydd angen myfyrio ar arferion presennol y gweithle yn ystod y cwrs. Yn ogystal, bydd yn rhoi cyfle i gyfieithwyr ddangos comisiynau gwaith sydd wedi cael eu gwneud.
Mae’r cwrs Prentisiaeth Uwch hwn yn gymwys ar gyfer Seremoni Graddio Flynyddol fawreddog Coleg Gŵyr Abertawe – cyfle gwych i ddathlu cyrhaeddiad llwyddiannus gyda chymheiriaid a theulu.
Cysylltwch ag Einir-Wyn Hawkins yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i drefnu cyfarfod i drafod hyn ymhellach: Einir.hawkins@gcs.ac.uk neu 07800 614001.
01792 284400
This course is listed in the following training categories:
Customer Feedback
“Working with GCS Training and the provision of this training has been a rewarding and very worthwhile exercise.
”
Simon Lockey, ABM University Health Board
Featured Course
NEBOSH IOSH HIGHFIELD GOWER COLLEGE SWANSEA Accredited Training
Manual Handling - Abrasive Wheels - IOSH Working Safely - Principles of COSHH - Working at Height - IOSH Managing Safely - NEBOSH General Certificate, Construction and Environmental - Principles of Risk Assessment CIEH Award Fire Warden s